Dulliau Modern â Gwerthoedd Traddodiadol
Tel: 01492 517346
e-bost: info@rldavies.co.uk
© 2013 R L Davies & Son Ltd
RLD (R L Davies & Son Ltd) yw un o’r prif gwmniau adeiladu yng Ngogledd Cymru. Sefydlwyd y cwmni yn 1947 ac mae gwreiddiau RLD wedi ei seilio yn gadarn ar werthoedd traddodiadol tra bod y cwmni yn ymrwymo i ymgorffori dulliau, deunyddiau a thechnegau modern i greu adeiladau o ansawdd uchel. Rydym yn cynnig gwasanaeth proffesiynol gyda phwyslais ar Iechyd a Diogelwch, Rheoli Ansawdd gwerth am arian, a rhagori ar ddisgwyliadau’r cwsmer. Ein bwriad yn ein holl weithgareddau yw i ddatblygu perthynas dda sydd wedi ei seilio ar degwch ac ymddiriedaeth, gyda'n cwsmeriaid a'u timau proffesiynol. Rydym yn falch o'n henw da a’n llwyddiant o greu adeiladau preswyl, masnachol a diwydiannol o'r safon uchaf ar gyfer y sector breifat a'r sector gyhoeddus. Rydym yn credu mewn adeiladu effeithlon, mae ein gweithwyr yn fedrus a phrofiadol a gyda gwybodaeth eang o ddulliau adeiladu a phrofiad helaeth o greu adeiladau i ofynion penodol y cleient, a hynny o fewn cyfyngiadau cyllideb ac amser. Lleolir prif swyddfa RLD yn Llysfaen, Bae Colwyn yn agos i briffordd yr A55 ac o fewn cyrraedd hawdd i weddill Gogledd a Chanolbarth Cymru a Gogledd Ddwyrain Lloegr. Mae'r brif swyddfa wedi ei lleoli ar safle pwrpasol sydd yn cynnwys gweithdai, cyfleusterau cynnal a chadw peiriannau, sawl ardal storio dan do a safle ailgylchu ac rydym yn berchen ar ein fflyd o gerbydau a pheiriannau ein hunain. Rydym yn elwa o gael Rheolwr Diogelwch a Hyfforddi, sydd wedi ei gymeradwyo gan NPORS, yn rhan o'r tîm . Mae ein gweithwyr yn aml-ddisgybledig, a nifer ohonynt wedi gweithio i RLD ers blynyddoedd lawer maent yn derbyn hyfforddiant a diweddaru eu sgiliau yn rheolaidd ac mae gan bob un o'n gweithwyr yn gymwys i wneud y gwaith y maent yn ei wneud. Mae RLD wedi derbyn achrediadau OHSAS 18001, ISO 14001, ISO 9001 SafeContractor a CHAS (Construction Health & Safety Group).